ergyd diachos, hi a ddychwel ataf ac a ddwg i'w chanlyn ei holl gynhysgaeth."
Priododd y ddeuddyn ieuainc a myned i fyw i Esgair Llaethdy, ychydig tros filltir o bentref Myddfai. Buont lwyddiannus a dedwydd am flynyddoedd, a ganwyd iddynt dri o feibion talentog. Ond un tro gwahoddwyd y rhieni i wasanaeth bedydd yn y gymdogaeth. " Dos i ddal y ceffylau tra byddaf yn cyrchu dy fenyg o'r tŷ," meddai'r gŵr. Pan ddychwelodd a chael nad aethai'r wraig yn ôl ei gais, trawodd ei hysgwydd yn ysgafn â maneg, a dywedyd, "Dos, dos." " Dyna'r ergyd diachos cyntaf," meddai hi. Ymhen rhai blynyddoedd wedyn yr oeddynt mewn gwledd briodas. Yng nghanol y llawenydd a'r miri, torrodd hi i wylo yn chwerw ac uchel. Cyffyrddodd y gŵr hi eilwaith ar ei hysgwydd, a gofyn am achos ei thristwch. " Yn awr," meddai hi, " y dechrau gofidiau'r ddeuddyn hyn, a thebyg hefyd y dechrau dy ofidiau dithau gan iti fy nharo'n ddiachos yr eilwaith."
Tyfasai'r plant yn ddynion ieuainc, ac nid oedd yn y wlad deulu dedwyddach. Ond un diwrnod, a'r rhieni mewn angladd a phawb yn fawr eu galar, chwarddodd y wraig ar uchaf ei llais. Cyffyrddodd ei phriod â'i braich a dywedyd, " Ust, ust, paid â chwerthin." " Chwerddais," meddai hi, "oherwydd bod y marw wedi dianc o'i flinderau. Trewaist yr ergyd olaf. Ffarwél."
Trodd ei chefn arno a myned i Esgair Llaethdy a galw ar ei hanifeiliaid. Galwodd ar y gwartheg