Tudalen:Coelion Cymru.pdf/103

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

llawysgrif, a chyhoeddwyd hi yn llyfr tan yr enw "Meddygon Myddfai," yn Llanymddyfri yn 1861. Ceir yn y llyfr gant a phedwar ugain ac wyth o gyfarwyddiadau (prescriptions) meddygol. Dyma ei eiriau cyntaf:

"Yma gan borth Duw goruchel bendvic, y dangosir y medegynyaethau arbennickaf a phennaf wrth gorff dyn, sef y neb a beris eu hyscrivennu yn y mod hwn Rhiwallawn Vedic ae veibion; nyt amgen, Kadvyavn, a Gruffud ac Einavn."

Yn ôl y rhagymadrodd i "Meddygon Myddfai," bu Rhiwallon a'i feibion yn feddygon i Rys Gryg, arglwydd Dinefwr a Llanymddyfri. Cyn belled ag y gwyddys, yr olaf o'r meddygon a ddisgynnodd o Forwyn Llyn y Fan ydoedd C. Rice Williams a breswyliai yn Aberystwyth yn 1881.[1] Y mae ffynhonnau rhinweddol ym mhob rhan o Gymru; nid oes odid blwyf heb un neu ragor ynddo. Cysylltir y mwyafrif â rhyw sant neu santes arbennig, a cheir hwy'n amlach yng Ngogledd Cymru nag yn y Deheudir. Er eu bod yn llu mawr, nid oes fawr wahaniaeth rhyngddynt o ran nodweddion. Nid oes ofyn yma am gofnodi hanes namyn ychydig o'r rhai enwocaf.

FFYNNON ELIAN (Sir Ddinbych). Gwaith gwreiddiol y ffynnon hon ydoedd gwella clefydau, eithr trwy ryw gyfaredd anffodus trodd i felltithio.

FFYNNON DEGLA (LLANDEGLA) Yr oedd yn

  1. Celtic Folklore, Syr John Rhys, Cyf. I. td. 2-12,