hon rinwedd at wella math ar ffitiau, neu ddolur a elwid yn "Clwyf Tegla."
FFYNNON GWENFREWI (TREFFYNNON). Y mae yn hon rinwedd at wella pob math ar anhwylder, ac ym marn y Pabyddion hyd heddiw, y mae ei dyfroedd yn wyrthiol i'r sawl a fo'n gryf ei ffydd.
FFYNNON BEUNO (CLYNNOG). Gwellha hon blant yn dioddef oddi wrth nychdod a ffitiau.
FFYNNON GYBI (LLANGYBI). Datguddia hon i ferched ffyddlondeb neu dwyll eu cariadon.
FFYNNON DDWYNWEN (SIR FÔN). Yr un â Ffynnon Gybi yw gwasanaeth hon hithau.
FFYNNON GYNON (LLANGYNWYD, MORGANNWG). Pan oedd dau newydd briodi, y cyntaf a yfai ohoni a fyddai ben byth wedyn.
FFYNNON FAIR (LLŶN). Ar amod arbennig, sef os dringir llwybr serth yn ymyl heb golli dafn o'i dŵr o'r geg, caiff pob person ei ddymuniad gan y ffynnon ddefnyddiol hon.
FFYNNON NON (TYDDEWI). Ni fyn Non, mam rasol Dewi, i neb aberthu mwy na phinnau bach, a manion eraill, i'r diben o sicrhau holl ddymuniad ei galon.
FFYNNON BUSHELL. Gwahaniaetha'r traddodiadau y ffynnon hon oddi wrth eiddo'r ffynhonnau a enwyd eisoes, ac ni welais gyfeirio ati mewn argraff. Yng ngogledd Ceredigion, ar fryncyn lled uchel, filltir o Dre'rddôl ac yn wynebu afon Dyfi, y mae plasty o'r enw Lodge Park—yr hen