Tudalen:Coelion Cymru.pdf/105

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

enw ydoedd Bod Frigan. Yn y plasty hwn y preswyliai Syr Hugh Middleton ychydig dros dri chan mlynedd yn ôl, a gweithio oddi yno waith mwyn plwm Cwm Symlog a ddygai iddo elw o ddwy fil o bunnoedd y mis. Yn ei ddilyn ef daeth Thomas Bushell i Lodge Park a gweithio'r gwaith a weithiasai Syr Hugh. Bernir i Bushell weithio hefyd amryw fân weithfeydd plwm yng ngogledd y sir. Ymgyfoethogodd yntau gymaint oni allodd roddi'n fenthyg i'r brenin Charles y cyntaf ddeugain mil o bunnoedd. Ffurfiodd hefyd gorfflu o filwyr o'r mwynwyr i ymladd o blaid Charles. Yn y goedwig ychydig i'r gogledd oddi wrth y plas, y mae ffynnon mewn craig, â'r graig yn do iddi. Ei maint yw pedair troedfedd o hyd, dwy ar ei thraws, a'i dyfnder yn ddeunaw modfedd. Ni phaid ei dŵr na haf na gaeaf, ac y mae bob amser yn loyw fel grisial ac oer fel ia. Amgylchir y ffynnon â thoreth o frigau marw a dail y coed, eithr ni cheir byth na brigyn na deilen ynddi hi. Ymwelais â hi yng ngwyliau Nadolig 1936, ac yr oedd yn gwbl lân. Y traddodiad yw ddarfod i Thomas Bushell lofruddio'i wraig a gwthio ei chorff i'r ffynnon hon. Galwyd hi byth wedyn yn Ffynnon Bushell.

Gwyddys am lawer o ffynhonnau at wella crydcymalau, a symud dafadennau, gwendid llygaid, a llu o anhwylderau eraill. Credid unwaith y perthynai rhinwedd gwyrthiol i amryw o'r ffynhonnau hyn, a rhoddid iddynt barch crefyddol onid addolgar.