Tudalen:Coelion Cymru.pdf/106

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

VII.

OGOFAU A MEINI

Y mae traddodiadau ynglŷn ag Ogofau a Meini Cymru mor lluosog, a llawer ohonynt mor lleol a chyffredin, fel na farnwn yn ddoeth gofnodi ond ychydig ohonynt. Ceir hefyd ambell draddodiad sy'n hen a hysbys, ac eto yn hawlio lle ym mhob casgliad o lên gwerin. Un felly yw hwnnw am Ogof Arthur. Nid oes neb a ŵyr ychydig am lên y genedl na ŵyr hefyd am draddodiad yr ogof hon; eithr y mae naw o bob deg o Gymry na wyddant am Arthur na'i Ogof. Er budd y dosbarth mawr hwn dylid gwthio arnynt ambell stori a drig ers oesoedd yn ein llên.

OGOF ARTHUR. Nid oes well stori ogof nag un Ogof Arthur, ac efallai nad oes un a ledaenwyd gymaint. Lleolir yr Ogof hon mewn amryw fannau yng Ngogledd a Deheudir Cymru, ac amrywia'r traddodiadau gryn lawer. Caiff yr un a gofnodir yn "Y Brython" am ogof Craig-y-ddinas, Llantrisant, Morgannwg, wasanaethu i egluro'r gweddill.

Un diwrnod, ar ôl gwerthu'r gwartheg a yrasai o Gymru i Lundain, fe'i cafodd porthmon ieuanc ei hun, â'i ffon gollen hirfain yn ei law, ar Bont Llundain, a chyfarfod yno â dyn dieithr. " O ba le y daethost?" meddai'r dieithryn. "O'm