Tudalen:Coelion Cymru.pdf/107

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwlad fy hun," atebai'r Cymro. "Tyfodd y ffon sydd yn dy law mewn llwyn a dyf ar enau ogof sydd ag ynddi grynswth o aur ac arian, ac os cofi di'r fan a'i ddangos i mi, a dilyn fy nghyfarwyddyd, ti a gei yr hyn a fynnych o gyfoeth." Gwelodd y Cymro mai Dyn Hysbys a lefarai wrtho. Aeth y ddau i Gymru ac at y llwyn cyll ar Graig-y-ddinas. Dadwreiddiwyd y llwyn, a chael oddi tanodd faen mawr llydan a oedd ar enau'r ogof. Ar y genau hongiai o'r nenfwd gloch fawr a hen. "Gochel gyffwrdd â'r gloch rhag colli dy fywyd," meddai'r dyn hysbys. A gofal mawr aethant i'r ogof, a gweled yno filwyr filoedd tan arfau yn lled-orwedd â'u traed at ei gilydd, ac yn cysgu. Goleuai gloywder yr arfau yr holl ogof. Yn y canol gorweddai un nad oedd ei hafal. Gwisgwyd hwn ag urddas a'i gwahaniaethai oddi wrth bawb. Yn ei ymyl ef yr oedd pentyrrau o aur a gemau. "Cymer a fynni o'r trysorau," meddai'r dewin. Llwythodd y Cymro ef ei hun ag aur. "Gochel gyffwrdd y gloch wrth fyned allan," meddai'r dewin, "rhag deffro'r milwyr, ac iddynt ofyn, 'A yw hi yn ddydd? ' Os digwydd hyn, ateb dithau yn syth ac yn hy, 'Nac ydyw, cysgwch,' a phlyg pob un ei ben a chysgu wedyn." Gan mor drwm oedd ei faich o aur, methodd y Cymro â gochel y gloch, a bu bron a llewygu. Deffrodd y milwyr a neidio ar eu traed, ac yn sŵn tinciadau'r arfau, gofyn, "A yw hi yn ddydd?" Atebodd y Cymro, "Nac ydyw, cysgwch." Llwyddodd ef a'r dewin i ddianc yn ddianaf o'r ogof, a gosodasant