Tudalen:Coelion Cymru.pdf/109

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i ynni a gweithgarwch anarferol, ac ennill Prydain i'r Brythoniaid.[1]

Cysylltir hefyd draddodiad Ogof Arthur ag Ogof Owain, sydd gerllaw Llandybïe. Yn ôl Celtic Folkelore, Syr John Rhys, caewyd ar Owain a'i ddewrion yn yr ogof hon, a buont farw o newyn. Yn 1813 cafwyd yn yr ogof esgyrn nifer o ddynion o faintioli anarferol. Ond dywaid Mr. T. H. Lewis, Llandybïe, na fu erioed yn yr ardal draddodiad ddarfod i neb ddarganfod esgyrn dynol yn 1813 yn Ogof Owain, eithr yn Ogof Pant-y-llyn. Yn ymyl y bryn a elwir "Y Ddinas," y mae bryn arall a elwir Craig Derwyddon, ac yn 1813 trawodd chwarelwyr, a weithiai ar y bryn hwn, i ogof na wyddid amdani, ac yn yr ogof hon —Ogof Pant-y-llyn—y cad y penglogau. "Tua milltir i'r gogledd o bentref Llandybie," meddai Mr. T. H. Lewis, "saif bryn a elwir Y Ddinas, ac ar ei lechwedd ceid hyd yn ddiweddar ogof a adnabyddid fel 'Ogof y Ddinas.' Nid yw'r ogof yno mwyach, gan fod chwareli wedi difa rhan helaeth o'r llechwedd, ond cofia hynafgwyr y pentref amdani . . . Nid traddodiad ansicr ac annelwig mohono, ond un a lynodd yn yr ardal ar hyd y canrifoedd."[2] Huna Owain Lawgoch a'i filwyr hyd oni ddêl taro ar Gymru, ac yna deffro a gorchfygu.

TRYSOR CUDD CASTELL FAEN GRACH. Cefais

  1. Geiriadur Cen. Cymru . . Y Parch. Owen Jones (1875), Cyf. I., td. 263.
  2. The Aman Valley Chronicle, Mai 27, 1937.