Tudalen:Coelion Cymru.pdf/111

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymgyfoethogodd? Nid oedd ond un esboniad— aur yr ogof.

Daeth gŵr dieithr o ardal Machynlleth i Dyn-y-castell, a chael hanes y trysor gan ŵr y tŷ. Bore trannoeth tynnodd y ddau i gyfeiriad yr ogof ag arfau cloddio. Yr oedd yn fore hafaidd a braf, a dechreuwyd chwilio am enau'r ogof, ond yn sydyn wele newid mawr. Fflachiai'r mellt a rhuai'r taranau oni theimlid yr holltai'r creigiau. Dihangodd y ddau ymchwilydd am eu bywyd. Ni welwyd y gŵr o Fachynlleth yn ardal Pont-ar-Fynach byth mwy.

Y mae gan yr hen fardd Gethin Jones yntau stori am drysor cudd a wylir gan alluoedd goruwchddynol. Buasai ymosod mawr ar Ysbyty Ifan, a'r brwydro yn ffyrnig a gwaedlyd. Yn ystod y brwydro, cuddiwyd arian tan y Maen Crair gerllaw Cadnant a Bryn Cerbyd. Y mae'n debyg y bu'r cuddio hwn i ddiogelu'r trysor hyd onid elai'r heldrin heibio. Yn ôl traddodiad, ni faidd neb symud y Maen Crair rhag ei ladd gan fellt a tharanau. [1], td. 272.

BEDD TALIESIN. Ymddengys oddi wrth y traddodiad am y bedd hwn mai prif offerynnau'r bodau anweledig i'w amddiffyn a'i ddiogelu yntau ydyw mellt a tharanau. Dylem ddiolch am ofal y bodau ysbrydol hyn, oblegid a barnu wrth y golwg sydd ar y bedd, ni ŵyr Cymrodorion a Chymdeithas Hynafiaethau a Chyngor Sir Aberteifi

  1. Gweithiau Gethin . . O Gethin Jones (1884)