ddim amdano. Yn gefndir i Dre' Taliesin y mae mynydd lled uchel, ac ar ei uchaf, mewn llain ar dyddyn Pensarn Ddu y mae carnedd gerrig â daear wedi tyfu trosti, ac yn y garnedd hon y mae'r Bedd. Lled cae bychan oddi wrtho y mae Sarn Helen. Ceir nodyn yn "Y Brython" gan Lewys Dafys (Yr Hen Glochydd), Tre' Taliesin, a ddengys y derbynnid y traddodiad am fan bedd y bardd fel ffaith yn ei ddyddiau ef.[1]
Math ar gistfaen ar ffurf arch â maen mawr ar ei wyneb yw'r bedd. Bu Mr. Tom Owen, Tre' Taliesin, yn gwasanaethu yn ei ddyddiau bore mewn fferm sy'n cyrraedd i ymyl y bedd, a dywaid ef fod traddodiad cryf yn y gymdogaeth ynglŷn â chais i ymyrryd â'r bedd. Pan weithid siafft Pensarn ar waith mwyn plwm Bryn-yr-Arian, aed i chwilio am faen trwchus a chryf i ddal corddyn (pivot) isaf chwimsi i godi ysbwrial a mwyn o'r gwaith. Dewiswyd y maen a oedd ar fedd Taliesin, ac aeth gŵr Pensarn a'i weision i'w gyrchu mewn gambo. Dechreuwyd ar y gwaith o'i symud, eithr yn annisgwyliadwy tywyllodd yr awyr a thorrodd ystorm ddychrynllyd o fellt a tharanau, a bu raid i'r dynion ddianc am eu heinioes. Y mae'r maen yno eto, ar ben gogleddol y bedd, ac wedi ei symud tua llathen o'i le gwreiddiol. Dywaid Mr. Isaac Lloyd, Tal-y-bont, sydd hynafgwr, y credai holl drigolion yr ardal y traddodiad pan oedd ef yn blentyn.
Y mae'r ddau draddodiad a ganlyn a gefais gan
- ↑ Y Brython (1860), td. 316.