Tudalen:Coelion Cymru.pdf/113

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mr. Lewis Hughes, Meliden, yn rhai tra diddorol, a'r cyntaf yn awgrymu nawdd a gofal bod neu fodau goruwchnaturiol.

BEDD BRYNFORD (SIR FFLINT). Yn ymyl Bryniau Dwnsis, chwaraefan y Tylwyth Teg ar noson loergan, y mae bedd ag arno gylch o gerrig. Dywaid hen ŵr, sydd eto'n fyw, y cofia ef i ffermwr ddefnyddio rhai o'r cerrig i godi clawdd un o'i gaeau'n uwch. Bore trannoeth, er ei syndod, cafodd fod y cerrig i gyd wedi diflannu. Yn ei fraw aeth at y bedd, a gweled yno y cerrig, bob un, yn eu lle megis yr oeddynt cyn iddo ymyrryd â hwy.

COPA'R LENI. Y mae'r bedd hwn ar ben Clip-y-gop, ym mlwyf Treflawnyd, a chyfrifir ef y bedd mwyaf yng Nghymru. Dysg traddodiad mai bedd un o gadfridogion Rhufain ydyw. Credai Mr. Lewis Davies, taid Mr. Lewis Hughes, fod y traddodiad yn wir, ac adroddai y teithiai ef un noson olau lleuad o Ddyserth i Newmarket, a gweled y caeau yn llawn o filwyr Rhufeinig. Ar Glip-y-gop gwelai'r cadfridog ar farch gwyn. Marchogai'n hamddenol ac urddasol â'i gleddyf yn ei law. Daeth cwmwl tros y lloer, a chollwyd golwg ar y march a'r marchog.

Ymddengys bod yn Sir Fflint amryw draddodiadau ynglŷn â thrysorau cudd, a rhydd Mr. Lewis Hughes un a gafodd gan ei dad. Credid yn gryf fod ellyllon a ddrygai'r trigolion yn byw oddi tan