Tudalen:Coelion Cymru.pdf/114

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y Garreg Doll, neu Carreg-y-doll, sydd ym mhlwyf Llanasa. Ofnai'r plwyfolion y garreg hon gymaint fel nad âi neb heibio iddi ond o raid, hyd yn oed liw dydd. O dro i'w gilydd magodd rhai ddigon o wroldeb i ryfygu ceisio dryllio'r garreg i'r diben o ymlid yr ellyllon, eithr gwnaed pob cais yn ofer gan ystormydd ofnadwy o fellt a tharanau. Unwaith, ar ôl un o'r ystormydd hyn, a gŵr yn cerdded fin nos heb fod ymhell oddi wrth y garreg, clywai riddfan dwys, ac o edrych gwelai olau tanbaid uwchben y garreg, ac yna, o'r anweledig, ddwy fraich noeth cawr yn ymestyn ac yn gafael ynddo. Cipiwyd ef ymaith, a chredai tra fu byw ei ddwyn i ryw wlad tan y ddaear. Cyrhaeddodd adref ymhen peth amser, eithr ni wybu pa fodd. Daethpwyd i gredu gan rai yn ddiweddarach mai gorchuddio trysorau a wnâi Carreg-y-doll, ac mai prif ddiben yr ellyllon ydoedd eu hamddiffyn.

Y mae hefyd draddodiad bod twnnel llawn o drysorau yn arwain i seler yng Nghastell Rhuddlan, a chofia Mr. Lewis Hughes am gryn gloddio tua deugain mlynedd yn ôl am dwnnel â thrysorau a arweiniai i gastell Dyserth. Ychydig flynyddoedd yn ôl darganfuwyd seler tan y ddaear y tu allan i Blas Pentre, Helygain, a chredid mai yno y cadwai Llwydiaid y Plas y gwinoedd a thrysorau eraill a ysmyglid ar afon Dyfrdwy.

Y mae'n naturiol disgwyl i fynyddoedd a chreigiau Gogledd Cymru gynnwys llawer o ogofau, eithr prin yw'r dynion a fedr roi hanes y