Tudalen:Coelion Cymru.pdf/117

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hanes llenyddiaeth y genedl, a saif yn uchel heddiw o ran diwylliant a moes. Y mae hefyd ar led si cryf a chyson fod ei Chymraeg a'i Saesneg yn lanach nag eiddo un dref arall yng Nghymru. Boed hynny fel y bo, nid yw bri'r hen dref fawr llai, os dim, nag y bu; eithr gwelodd Myrddin ei drygfyd a'i diwedd:

"Llanllwch a fu,
Caerfyrddin a sudd,
Abergwili a saif."
" Caerfyrddin, cei oer fore.
Daear a'th lwnc, dŵr i'th le."

Ar Heol y Prior, yn ymyl yr hen briordy, lle yr ysgrifennwyd Llyfr Du Caerfyrddin yn ôl traddodiad, saif pren derw crin sy'n malurio'n raddol ar hyd yr oesoedd, ac yn ôl Myrddin, pan syrth y pren hwn fe lyncir y dref. Trin awdurdodau'r dref yr hen bren â gofal mawr, ac efallai mai darogan y broffwydoliaeth a bair hynny.

MELLTITH MAES-Y-FELIN. Plas gwych ar lan afon Dulas, i'r dwyrain o Lanbedr Pont Steffan, ydoedd Maes-y-felin. Perthynai i deulu'r Llwydiaid am rai cenedlaethau. Yr oedd Syr Francis Lloyd, Maes-y-felin, a Samuel, mab y Ficer Prichard, Llanymddyfri, awdur "Cannwyll y Cymry," yn gryn gyfeillion. Dyn drwg a rhyfygus oedd Syr Francis, ac ar un achlysur cwerylodd Samuel ac yntau. Ni wyddys natur y cweryl, ond tybir bod y ddau tan ddylanwad diodydd meddwol ar y pryd. Pa fodd bynnag, terfyn y