Tudalen:Coelion Cymru.pdf/118

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cweryl fu mygu Samuel Prichard rhwng dau wely plu, a dwyn ei gorff ddyfnder nos tros y mynydd a'i daflu i Dywi yng Nghaerfyrddin. Pan ddarganfuwyd y trosedd enynnodd llid yr hen Ficer, a bwriodd ei felltith ar Faes-y-felin:

"Melltith Duw fo ar Maes-y-felin,
Ar bob carreg a phob gwreiddyn,
Am daflu blodau tref Llanddyfri
Ar ei ben i Dywi i foddi."

Y gred gyffredin ydyw i'r felltith ddisgyn yn ôl dymuniad yr hen Ficer. Diflannodd y teulu a dirywiodd y plasty. Nid oes yn aros garreg ar garreg o Faes-y-felin.[1]|

BEDD Y GŴR A GROGWYD AR GAM. Y mae ym mynwent Trefaldwyn fedd na thyf arno na glaswellt na phlanhigion o fath yn y byd. Amgylch ogylch ceir tyfiant rhonc, a gwnaed llawer cais yn ystod y can mlynedd diwethaf i dyfu gwellt a blodau ar y bedd yntau, ond yn ofer. Yn ôl "Cymru Fu" ac amryw lyfrau eraill, yn y flwyddyn 1819 daethai i Oakfield, plasty heb fod nepell o'r dref, ddyn ieuanc o'r enw John Newton, o Sir Stafford, yn was i wraig weddw a'i merch. Oherwydd ei fedr a'i ddiwydrwydd, llwyddodd fel arolygydd y fferm, a dysgodd y teulu ei barchu ac ymddiried ynddo. Ymhen peth amser ymserchodd merch y tŷ ac yntau yn ei gilydd, a bodlonai hynny'r fam hithau. Un diwrnod ym mis

  1. Folk-lore of West and Mid-Wales, J. Ceredig Davies (1911), td. 323.