Tachwedd 1821, aeth Newton ar neges i Drefaldwyn, ac ar ei daith adref, a hi yn dywyll, ymosodwyd arno gan ddau ddyn o'r enw Robert Parker a Thomas Pearce, a'i orfodi yn ôl i'r dref5 ac yno ei gyhuddo o ladrad pen-ffordd. Ar dystiolaeth y ddau ddyn hyn cafodd y llys ef yn euog, a dedfrydwyd ef i farw. Yn y llys neu ar y crocbren—ni wyddys yn sicr ym mha un o'r ddau le—taerai'r gŵr ieuanc nad oedd yn euog, a mynegi y profid ei ddiniweidrwydd gan y ffaith na thyfai glaswellt ar ei fedd am o leiaf un genhedlaeth. Ymboenodd y ddau a'i cyhuddodd am rai blynyddoedd tan gnofeydd cydwybod. Dihoenodd Parker gorff a meddwl, a lladdwyd Pearce trwy ddamwain mewn chwarel gerrig calch. Dywedai gohebydd o gymdogaeth Trefaldwyn yn y Manchester Weekly Times,—" Yr wyf wedi gweled y bedd ar wahanol dymhorau'r flwyddyn am ugain mlynedd, ac y mae bob amser yr un fath, sef heb ddim yn tyfu arno mwy nag sydd ar ganol heol, ond nid yw'r lle diffrwyth gymaint ei arwynebedd â chaead arch. Tuag wyth modfedd o led yn yr ysgwyddau, a phedair neu bump yn y pen a'r traed ydyw, a'i hyd tua phedair troedfedd a hanner."[1],
A Mr. Stanley Baldwin, Prifweinidog Prydain Fawr, yn treulio seibiant yng Ngregynog, Sir Drefaldwyn, ddiwedd Awst 1936, ymwelodd â'r bedd. Gwelsai Mr. Baldwin ef flynyddoedd yn ôl, ac yn awr craffai ar y ddaear ddiffrwyth a