dywedyd wrth ei gyfeillion, "There it is, the ground is as bare as when I last saw it some years ago." Hysbysai Mr. John Davies, y clochydd, Mr. Baldwin ei fod ef ar ôl hanner can mlynedd o ofalu am y fynwent a gwylio'r bedd yn parhau i gredu bod y traddodiad yn ffaith.[1]
Ym mis Ebrill 1936, derbyniais oddi wrth Mr. Henry W. Evans? Y.H., Solfach, rai o broffwydoliaethau dewin enwog a breswyliai ym Mhenfro. Rhoddaf hwy yng ngeiriau Mr. Evans ei hun:
"Bedwar ugain neu gan mlynedd yn ôl, trigai ym mhentref bychan Caerfarchell, plwyf Dewi, Sir Benfro, un William Howell, a adnabyddid wrth yr enw 'Wiliet.' Teiliwr oedd Wiliet wrth ei grefft, ond dewin wrth natur. I'r bobl gyffredin yr oedd enwi Wiliet ar unwaith yn awgrymu bwganod, ysbrydion, drychiolaethau a chanhwyllau cyrff.
"Wele un stori foel, heb na phaent nac addurniadau, ond sydd yn wir bob gair. Cefais hi gan hen ŵr o'r enw Francis John a weithiai gyda'i dad, Billy John, saer coed yn Solfach. Un diwrnod dywedodd Wiliet yn sobr iawn wrth Francis y byddai angladd yn fuan ym mhentref Fachelich, ryw ddwy filltir o Gaerfarchell.'Chwerthin yn wawdlyd a wneuthum i,' meddai Francis. Yna meddai Wiliet,'Ti gredu hyn pan fydd dy frawd a thithau yn cario'r coffin heibio i dŷ'r Doctor ar eich ffordd i Fachelich.'
"Bu holi a dyfalu pwy a oedd yn debyg o
- ↑ Western Mail and South Wales News, Sept. 3, 1936.