Reynolds, cyd-weinidog David Jones, y dewin am daenu celwyddau a chreu pryder ym meddyliau'r trigolion. Bygythiodd ef hefyd yn gas. Atebodd Wiliet yn dawel, 'Chwi gredwch pan welwch yn gwasanaethu yn yr angladd weinidog â barf wen laes. Y mae hynny yn amhosibl,' meddai Mr. Reynolds, 'oblegid nid oes yn yr holl ardal weinidog yn cyfateb i'ch disgrifiad.' "Yn fuan clafychodd Mr. David Jones, a bu farw ym Mehefin 1849. Aeth yr angladd o'r tŷ yn Solfach am gladdfa Felin Ganol, ac ar y daith meddyliai pawb am eiriau Wiliet, ac ysbïo am y gŵr â'r farf wen, ond ni welid neb yn ateb i'r disgrifiad.
"Cyrhaeddwyd y capel, ac yn eistedd tan y pulpud yr oedd gŵr cadarn a'i farf yn wen a llaes. Clywsai'r Doctor Davies, Prifathro Coleg y Bedyddwyr yn Hwlffordd, am farw David Jones, ac wynebodd y daith o dair milltir ar ddeg i'r angladd. Ar y ffordd collodd ei geffyl bedol, a'i rwystro i gyrraedd y tŷ mewn pryd, a thorrodd yntau ar draws gwlad a chyrraedd y capel o flaen yr angladd. Ef oedd gweinidog proffwydoliaeth Wiliet."
Ni pherthyn yr hanesyn a ganlyn yn uniongyrchol i Gymru, ond gan Gymro, sef Mr. John Morgan, Y.H., y cefais ef, a chafodd yntau ef gan feddyg sy'n gwasanaethu yng Nghymru. Ysgotyn yw'r Doctor A— a fu'n hir yn y Rhyfel Mawr. Yn yr un gatrawd ag ef yn Ffrainc yr oedd Ysgotyn arall a yfai ddiodydd meddwol i ormodedd