Tudalen:Coelion Cymru.pdf/124

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd yno neb. Y munudau hynny taniodd pwll Cilfynydd, ac yr oedd Richard y mab ymhlith y cannoedd a gollwyd.

Arwyddion Tywydd: Ffawd ac Anffawd. Rhoddai'r hen Gymry goel fawr, a choel i bwrpas da yn gyffredin, ar wahanol arwyddion. Eithr erbyn hyn y maent wedi peidio â bod, neu yn hytrach nis gwelir. Nid mantais ddigymysg a ddaeth drwy'r Papurau Newydd a'r Radio. Collodd y werin drwy'r pethau hyn a'u cyffelyb lawer o'i chraffter meddwl a'i dawn i sylwi. Craffai'r hen amaethwyr bychain yn sylwgar ar arwyddion natur ac arferion creaduriaid, a threfnent eu gwaith yn ôl yr hyn a welent. Fel y dengys Cadrawd yn ei draethawd ar Lên Gwerin Morgannwg, cyn datblygu o'r glofeydd a dyfod trosodd wrth y miloedd Saeson Bryste a mannau eraill, ymhoffai'r mân feirdd mewn casglu'r coelion i driban a rhigwm a dihareb.

Yr wylan fach adnebydd,
Pan fo'n gyfnewid tywydd;
Hi hed yn deg ar adain wen,
O'r môr i ben y mynydd.

Fe neidia'r gath yn hoyw,
Rhwng gwynt a thywydd garw;
Hi dry'i phen-ôl tuag at y gwres,
Po nesa' byddo i fwrw.

Y fuwch fach gota (lady cow)
P'un ai glaw ai hindda?
Os daw glaw, cwymp o'm llaw:
Os daw haul, hedfana.