Niwl y gaea', arwydd eira:
Niwl y gwanwyn, gwaeth na gwenwyn.
Os glaw fydd ddydd Gŵyl Switan,
Glaw ddeugain niwrnod cyfan.
Bwa'r Drindod y bora, aml gawoda;
Bwa'r Drindod prynhawn, tegwch a gawn.
Awyr goch y bora, brithion gawoda;
Awyr goch prynhawn, tegwch a gawn.
Os cân y gog ar bren llwm,
Gwerth dy geffyl, a phryn bwn.
Mis cyn Clamai, cân y cogau;
Mis cyn hynny tyf briallu.[1]
ARWYDDION GLAW. DYDD SANT SWITHIN. Credir yn gyffredin o bydd glaw ar y pymthegfed o Orffennaf, mai glaw a geir am ddeugain niwrnod. Y traddodiad ydyw y dymunai Sant Swithin ei gladdu mewn mynwent ymhlith y bobl gyffredin, ac nid yn y gangell fel esgobion eraill. Claddwyd ef yn ôl ei ddymuniad. Eithr pan ganoneiddiwyd ef a'i wneuthur yn Sant, teimlai'r mynaich nad gweddus oedd i gorff Sant fod mewn mynwent gyffredin ac agored fel cyrff dynion o radd isel, a symudwyd y corff â rhwysg i'r gangell. Bu hyn ar Orffennaf y pymthegfed, a'r dydd hwnnw disgynnodd glaw trwm anarferol, a pharhau am ddeugain niwrnod. Derbyniwyd hyn fel arwydd
- ↑ Cyf. Eisteddfod Gen. Aberdâr (1885) "Llên Gwerin Morgannwg," Cadrawd, td. 210.