Tudalen:Coelion Cymru.pdf/127

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o wynt cryf; niwl yn ymgripian o'r dyffryn i'r mynydd; sŵn y môr yn cyrraedd ymhell i'r tir. Arwyddion Tywydd Teg.

Tywyll fôr a golau fynydd
A sych waelod yr afonydd;

ond mewn rhai parthau o'r wlad,

Golau fôr a thywyll fynydd
A sych waelod yr afonydd;

yr haul yn machlud yn goch cryf a chlir; defnynnau glaw yn aros yn hir ar frigau'r coed; niwl yn dianc i lawr o'r mynydd; y defaid yn ceisio lle uchel ac amlwg i gysgu; gwylanod yn dychwelyd i'r môr; gwenoliaid yn ehedeg yn uchel; cyrn lloer newydd yn ymgodi; y bryniau yn ymddangos ymhell; os deiliai'r derw o flaen yr ynn, haf sych;

Dwy frân ar ben bore yn hedfan,
A'r nyth yn y goedwig o'u hôl;
Cymylau a gollir o'r wybren,
A gelwir pladuriau i'r ddôl.

Arwyddion Lwc ac Anlwc. O bydd haul fore'r briodas, y gŵr a fydd ben; y mae bwlch lled lydan rhwng dau ddant canol y wefus uchaf yn proffwydo llwyddiant; y mae man geni yn arwydd o oes lwcus, a gorau po uchaf y bo; daw llwydd o weled pen yr oen cyntaf a welir yn y gwanwyn; arwydd da ydyw nyth gwennol tan fargod tŷ.