Pethau anlwcus ydyw y rhai a ganlyn:—Lladd brain sy'n nythu gerllaw'r tŷ; brain a fu'n nythu am flynyddoedd yn ymyl y tŷ yn ymadael ohonynt eu hunain; clywed, am y tro cyntaf, y gog yn canu â'r llogell yn wag o bres; gweld y lloer newydd trwy wydr; gwisgo gwyrdd; peth anlwcus yw glaw fore'r briodas, oblegid y wraig a fydd ben; os tyn un flewyn gwyn o'i ben daw pedwar i angladd y blewyn hwnnw; os cyffwrdd eiliau'r llygaid â'i gilydd peidier ag ymddiried yn y person hwnnw; peth anlwcus iawn ydyw i biogen groesi'r ffordd o'ch blaen—yr unig fodd i osgoi anffawd ydyw sefyll yn sydyn, gwneud croes â'r droed, a phoeri, ac yna ddywedyd:
Piogen wen, piogen ddu;
Lwc i mi—ptw. (poeri);
gweled, pan fo un ar daith, un frân yn ehedeg heibio; myned â blodau'r drain gwynion i dŷ; codi ar y ffordd neu lwybr bedol loyw ceffyl, ond y mae pedol rydlyd yn lwcus. Yn 1892, yr oedd Mr. John Morgan, Ystumtuen, sydd yn gerddor gwych, yn paratoi côr ar gyfer Eisteddfod Awst yng Nghwm Ystwyth. Un bore ar ei ffordd i Gwm Brwyno, cododd bedol rydlyd. Daeth yr eisteddfod i'w feddwl ar drawiad, ac enillodd y côr yn rhwydd. Yn 1904, wynebai Eisteddfod Ysbyty Ystwyth â chôr wedi ei ddisgyblu'n well nag arfer, ac ni allai feddwl y collai. Bore neu ddau cyn yr eisteddfod cododd bedol eilwaith, a'r tro hwn, un loyw fel arian. Daeth yr eisteddfod