Tudalen:Coelion Cymru.pdf/131

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Fawr â hi, a chwerthin am ei phen gan ddiystyru ei gallu goruwchnaturiol. Craffodd Beti arno yn hir, a'i adael. Drymder nos deffrodd y gwas yn ei wely, a'i gael ei hun yn ysgyfarnog; ac er ei ddychryn gwelai ollwng arno ddau filgi mawr. Dihangodd am ei einioes, â'r milgwn yn ei ddilyn. Wedi helfa boeth tros gloddiau a thrwy eithin a drain, llwyddodd i ddychwelyd â chroen ei ddannedd i Ddôl Fawr, a'i gael ei hun ar ffurf dyn eilwaith. Trawsffurfid ef yn aml ar ôl hyn yn ysgyfarnog. O'r diwedd ymostyngodd i gydnabod gallu cyfareddol y rheibes, a thynnwyd ymaith yr hud a'r felltith.

Rhydd yr un awdur hanes diddorol am Reibesau Llanddona ym Môn. Y traddodiad ydyw, ddarfod alltudio'r rheibesau a'u teuluoedd o'u gwlad —ni wyddys pa wlad—oherwydd y dinistr a achosent trwy reibio. Gyrrwyd hwy i'r môr mewn cychod heb na hwyl na rhwyf. Glaniasant ar draeth Môn. Cododd y brodorion i'w herbyn a cheisio eu gwthio o'r tir. A hwythau ar fin marw o newyn a syched, parasant i ffynnon o ddwfr croyw darddu o'r traeth. O weled gwneuthur y fath wyrth, caniatawyd iddynt dario yn y wlad. Bu eu cynnydd yn gyflym, ac ni fuont yn hir heb ddechrau ar eu gwaith o reibio. Ymwelai’r rheibesau hyn â thai ffermydd y plwyf, ac ni feiddiai neb wrthod eu ceisiadau. O'u gwrthod a'u tramgwyddo dialent yn greulon. Wele enghraifft o'u melltithion. Traddodwyd hi ger y Ffynnon Oer ar druan a'u digiodd: