"Crwydro y byddo am oesoedd lawer;
Ac ym mhob cam, camfa;
Ym mhob camfa, codwm;
Ym mhob codwm, torri asgwrn;
Nid yr asgwrn mwyaf na'r lleiaf,
Ond asgwrn chwil corn ei wddw bob tro."[1]
Mewn llawysgrif ar "Yr Hen Amser Gynt . . . ynglŷn â Gogledd Cymru," gan John Castell Evans, Llanuwchllyn, cawn hanes peth o waith Cadi'r Witch. Cafodd J. C. Evans yr hanes tua'r flwyddyn 1861, gan John Edwards, Drws-y-Nant. Yr oedd yn byw ym mhlwyf Trawsfynydd un a elwid Cadi'r Witch. Aeth Cadi un tro i dŷ Gwen, Gelligen, i geisio llaeth. Gwrthododd Gwen hi. "Wel," meddai Cadi, "gan na chaf ddim, mi a'th wnaf yr un odia' a lyncodd laeth." Clafychodd Gwen. Galwyd gwahanol feddygon, ond nid i ddim pwrpas. Penderfynodd y mab ymgynghori â'r enwog Ddoctor Bunyan a oedd yn feddyg a chonsurwr. Hysbysodd y Doctor ef fod ei fam wedi ei rheibio. Parodd i'r mab ddwyn y fam i dyrpeg pentref Trawsfynydd, a'i gosod i eistedd ar gadair dderw â'i chefn at y drws, ac iddo yntau fyned allan ymhen ychydig funudau, ac y gwelai'r rheibes yn dynesu â baich o fawn ar ei chefn. Daeth y rheibes, a Chadi ydoedd. "Yn enw Duw, Cadi," meddai'r mab, "paham y rheibiaist fy mam? Tyrd i'r tŷ 'rŵan, a dwed, c Rhad Duw arni.' " Atebodd Cadi, "Rhad Duw rhag imi ddweud y fath beth." Eithr
- ↑ Welsh Folkelore, y Parch. Elias Owen (1896), td. 222-3