Tudalen:Coelion Cymru.pdf/133

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gorfododd y mab hi, a dywedodd y rheibes, braidd o'i hanfodd, " Rhad Duw arnat, Gwen bach." Ond oherwydd ei gorfodi, neu am suddo o'r fam yn rhy ddwfn i wendid, ni wellhaodd, ac er gorau'r Doctor Bunyan, bu farw ymhen ychydig amser.[1]

Gwelais gyfeirio rai troeon at reibesau ag iddynt nodweddion consurwyr. Yn Saesneg gelwir hwy yn White Witches. Y mae eu dibenion yn ddaionus. Geilw'r Parchedig D. Harris Williams, Bodffari, ein sylw at un ohonynt. Adroddid yn Bodffari am hen wraig ar y Waun a boenid ac a golledid yn fawr oherwydd anhwylder a thranc ei hanifeiliaid. Crwydrent y naill ar ôl y llall o gwmpas y maes fel petasai'r bendro arnynt, ac ymhen ychydig ddyddiau trengent o newyn, er bod iddynt borfa dda a dibrin. Anfonodd yr hen wraig ei merch i ymgynghori â'r White Witch a breswyliai gerllaw Castell Dinbych. Dywedodd y rheibes, " Dos adref a pheri i'th fam dynnu blewyn o bob anifail ag sy'n eiddo iddi. Yna, ganol nos, llosger y blew yn y tân, ac wrth wneuthur hynny darllener cyfran arbennig o'r Ysgrythur,—(ni chofiai Harris Williams pa gyfran)—a diogelir y gweddill o'r anifeiliaid." Gwnaeth y fam yn ôl cyfarwyddyd y rheibes, eithr anghofiodd dynnu blewyn o'r ci, a bu farw hwnnw.[2]

Yn ôl yr hanes a rydd Alexandra David-Neel am reibesau Tibet, y maent i gyd o dras y White Witch. Bodau anghyffredin o ran gallu a

  1. Llyfr. Gen. Cym., Llsgr. 10567.
  2. Llyfr. Gen. Cym., Llsgr. 5653