Tudalen:Coelion Cymru.pdf/134

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwybodaeth ydynt, ac yn gweithredu er mantais cymdeithas. Eu prif waith ydyw dysgu ac egluro gwirioneddau cudd ac athrawiaethau cyfrin. Credir yn Tibet mai math arbennig o Dylwyth Teg yw'r rheibesau hyn, a gelwir hwy " Mamau." Ymddangosant ar brydiau ar ffurf hen wragedd, a chanddynt lygaid gwyrdd neu goch.[1] Fe gofir mai'r enw ar y Tylwyth Teg mewn rhannau o Ddeheudir Cymru ydyw ' Bendith y Mamau.'

Gwelir oddi wrth lyfrau Edmund Jones (1780) a William Howells (1831) fod hanes a bri rheibesau yn hen iawn yng Nghymru yn eu dyddiau hwy. Nid oes neb a wad hynafiaeth y goel. Y perygl yn awr ydyw i'r sawl sy'n anghynefin â llên gwerin dybio heneiddio ohoni gymaint nes marw ganrif neu ddwy yn ôl. Y flwyddyn ddiwethaf dywedai awdur Seisnig, a gyfrifir yn hyddysg mewn llên gwerin, fod y gred yng ngallu deifiol llygaid rheibes wedi parhau hyd gyfnod cymharol ddiweddar ym Mhrydain.[2] Efallai nad yw'r gred mewn rheibio yn ddigon byw yn Lloegr i lenorion wybod ei bod, ond yn ôl amryw arwyddion y mae'r trigolion lawn mor ofergoelus ag y buont. O droi i ganolbarth Ewrop gwelir bod y gred mewn rheibio yn parhau i ffynnu. Mor ddiweddar â Rhagfyr 1935, cyhoeddwyd yn y Daily Telegraph hanes prawf rheibes yn llys y wlad yn Vienna. Nid coel farw mohoni yng Nghymru chwaith. Nid oes raid wrth

  1. With Myslics and Magicians in Tibet, Alexandra David-Neel (1936), td. 156.
  2. Witches and Warlocks, Phillip W. Sergeant (1936), td. 180.