sylwadaeth graff i ganfod bod amryw reibesau, a chred gref ynddynt, mewn rhai rhannau o Gymru yn bresennol.
Tuag wyth mlynedd ar hugain yn ôl, bu farw rheibes a breswyliai am y rhan fwyaf o'i hoes mewn pentref bron ar y terfyn rhwng siroedd Aberteifi a Threfaldwyn. Un flwyddyn prynodd y rheibes hon a chymdoges iddi, bob un, fochyn bach o'r un dorraid o fferm gyfagos. Bychan ac eiddil, o'i gymharu â pharchell y rheibwraig, ydoedd eiddo'r gymdoges, a bernid mai "cydydwyn" y dorraid ydoedd. Pa fodd bynnag, tyfai'r bychan yn gyflym, ac ymhen ychydig wythnosau rhagorai ar ei frawd o ran maint a phwysau. Ymwelai'r naill wraig yn aml â pharchell y llall. Un diwrnod sylwodd y gymdoges ddyfod rhyw aflwydd ar glustiau ei mochyn hi. Nid oedd arnynt friwiau fel petasai ci neu lygod mawr wedi eu cnoi, ond newidiasent eu lliw melyngoch ac iach i dywyll ysgafn, ac yna o dywyll i ddu. Yn fuan dechreuodd y clustiau fadru a syrthio oddi wrth y pen. Bwytai'r parchell yn gampus, ac yr oedd cyn iached â chneuen, ac yn llond ei groen; eithr moel ydoedd, ac yn ymddangos y mochyn hynotaf a welwyd. Ymdaenodd y sôn am y creadur bach drwy'r ardal, a heigiai pobl i'w weled. Gwelais ef fy hun. Bu dyfalu mawr am achos diflannu'r clustiau, a'r farn gyffredin ydoedd mai gwaith y rheibes oedd ar y mochyn. Dyna'r unig esboniad rhesymol, oblegid onid oedd mochyn y rheibes o'r un dorraid, a'r llall o ran tyfiant yn ei guro? O gredu bod melltith