Tudalen:Coelion Cymru.pdf/137

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y mae yn fy meddwl un hanesyn a ddengys gryfed yw'r gred mewn rheibio yng ngogledd Ceredigion, a pharoted yw llawer o'r trigolion i feddwl am bopeth chwithig ac aneglur fel cynnyrch melltith rheibes.

A mi yn byw yn Aberystwyth yn 1924, perswadiodd cyfeillion (!) fi i brynu beic modur. Dywedent na fyddai raid imi ddim ond eistedd arno, ac yr âi â mi yn gysurus i bob man trwy'r wlad. Gwae fi imi wrando ar y giwed. Gŵyr pawb trwy hanner y sir am droeon barus y beic hwnnw. Nid oedd beic yr Athro Parry-Williams fawr gwell na chysgod fy un i. Ef oedd y creadur mwyaf anystywallt a fu ar y ffordd fawr erioed. Chwysais ddengwaith onid oeddwn yn wan wrth geisio'i gychwyn. Ar ôl cychwyn, âi yn ufudd oni welai ar y ffordd ddiadell o ddefaid neu yrr o warthcg; yna sefyll, a pheri imi ysgafnhau ei faich trwy roddi fy nhraed ar lawr. Ymhob trofa amcanai ymosod ar bob cerbyd a beic a'i cyfarfyddai, ac o'i rwystro, âi i'r clawdd a'm taflu i ffwrdd fel petaswn ysgymunbeth. Eithr prif hynodrwydd yr hen feic ydoedd mai ar y daith i Bont Goch y gwnâi ei ystranciau pennaf a mynychaf. Cyrhaeddai yno ben bore yn boeth fel ffwrn ar ôl dringo rhiwiau, ond ar derfyn y dydd nid oedd fodd i'w gychwyn adref. Ymgasglai plant y pentref a llanciau'r lluestau o'i gwmpas. Meddylid am bob cynllun i'w gychwyn—gogleisio mannau tyneraf ei gorff, rhoddi dafn o wlybwr yn ei lwnc, cic ar ôl cic. Wedi ei hir gymell