dechreuai yntau gwyno a chwyrnu, ac wedyn, saethu fel ergyd o wn nes dychrynu'r defaid. I ffwrdd ag ef fel mellten.
Un tro methwyd â'i gychwyn, a cherddais i Dal-y-bont a galw yn nhŷ perthynas imi i holi am gerbyd. "Beth sy'n bod?" meddai Richard. "P'le mae'r beic?"
" Yn ffermdy Cerrig Mawr," meddwn, "methwyd â'i gychwyn." " O, mi welaf, Bont Goch eto, felly'n wir. Aros di, glywais i dy fod wedi disgyblu hen wraig y— yn ddiweddar? Ie, dyna hi,-disgyblu'r hen wraig; canlyniad, y beic yng Ngherrig Mawr. Beth arall oedd i'w ddisgwyl? Yr wyt yn credu mewn rheibio, wrth gwrs?"
"Credu mewn rheibio! Beth fedr rheibes wneud i geffyl haearn?"
"Mi wna bopeth a fyn hi, 'ngwas i. Mi all rheibes wneud pethau rhyfedd ac ofnadwy. Wedi ei reibio y mae dy feic, a gorau po gyntaf iti weld y Consurwr."
Gwerthais y beic i ddyn o Dregaron, gan wybod, os oedd dyn yn y cread a fedrai drin pob math o geffylau mai yn Nhregaron yr oedd.
Y CONSURWYR. Y mae o leiaf dair cred ynglŷn â'r consurwr. Credid unwaith yn lled gyffredinol mai person a wnaeth ryw gytundeb annynol â'r diafol oedd,—ei werthu ei hun iddo am ddawn neu fedr goruwchnaturiol. Awgrymir y gred hon yn niffiniad Brutus yn ei ysgrif ar "Ofergoelion