Tudalen:Coelion Cymru.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i ysgar cenhedloedd oddi wrth rai coelion a ystyrir yn ofer.

Y mae'n wir i wyddoniaeth yn ystod y ddau can mlynedd diwethaf beri cynnydd anarferol mewn amryw ganghennau o wybodaeth. Hyhi a'n tywysodd i'r gwirionedd am rai o ddeddfau pwysicaf natur. Ychydig yw'r sawl a gred heddiw nad y ddaear sy'n symud, ac ni thyb ond ychydig o'n darllenwyr Beiblaidd culaf i'r haul sefyll erioed. Bu dynion fel Newton a Harvey a Galileo a Darwin yn gyfryngau i gywiro llawer ar gredoau cenhedloedd y byd. Ond y mae gwyddor eto yn dysgu mai yn yr ofergoelion hyn y ceir hanes dynoliaeth. Dywaid Syr John Rhys na ellir ysgrifennu hanes unrhyw genedl heb roddi ystyriaeth fanwl i'w thraddodiadau a'i choelion yn y gorffennol, a bod a fynno'r pethau hyn lawer â hanes cywir y genedl Gymreig. Nid pethau gwamal a dibwrpas mohonynt.[1] O safbwynt y gwyddonydd o edrych ar hanes y byd, nid ofer o gwbl yw ofergoelion. Y mae'n wir i wyddoniaeth ymlid amryw goelion ofer o fywyd y genedl Gymreig a chenhedloedd eraill yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf, ond ofergoelion oeddynt ynglŷn â deddfau a gwrthrychau a berthyn i natur. Ni phroffesa gwyddoniaeth ymyrryd ag anawsterau neu broblemau'r byd anweledig. Gedy gwyddoniaeth fyd na pherthyn iddi heb ymyrryd ag ef, gan led-fwrw taw mater i arall

ydyw'r anweledig. I ymdrin â hwn daw

  1. Celtic Folklore, Cyf. I., td. 1.