pan fo anap neu nychdod hir ar anifail, neu pan gollir arian a phethau gwerthfawr eraill, eir yn hyderus i ymgynghori â'r consurwr. Ac nid yn fynych y dychwel un yn siomedig.
Yn gymaint â bod dewin Cwrt-y-cadno yn un o'r rhai cryfaf a mwyaf adnabyddus a gafodd Cymru, ac i minnau fod yn gymydog i rai o'i ddisgynyddion am rai blynyddoedd, efallai y dylid rhoddi gair o'i hanes.
Ganed John Harris yng Nghwrt-y-cadno, plwyf Caio, Sir Gaerfyrddin, yn 1785. Ar ei garreg fedd y mae'r geiriau Saesneg: " John Harris, Pantcoy, Surgeon, who died May II, 1839. Aged 54 years." Yn ei oes yr oedd yn sêr-ddewin a chonsurwr heb ei fath yng Nghymru. Tynnai'r cleifion a'r adfydus ato o bob rhan o'r wlad, ac yr oedd ganddo allu rhyfedd tros wallgofiaid. Yr oedd John Harris yn ddyn dysgedig a diwylliedig, a chanddo yn ei lyfrgell lyfrau Groeg a Lladin a Ffrangeg. Gadawodd ar ei ôl Lyfr Cyfarwyddiadau (prescription book) yn cynnwys tros bum cant o gyfarwyddiadau meddygol.[1] Y mae'r llyfr hwn yn ddiddorol oherwydd y dengys fod John Harris yn rhywbeth heblaw 'Dyn Hysbys.' Ymunodd ei fab Henry ag ef fel meddyg a dewin, a daeth yntau i gryn fri, eithr nid mor enwog â'i dad. Bu Henry Harris am rai blynyddoedd yn Llundain tan addysg y sêr-ddewin 'Raphael.'
Wele gopi o hysbysiad a wasgarai'r ddau Harris drwy'r wlad.
- ↑ Llyfr. Gen. Cym., Llawysgrifau Cwrtmawr, Llsgr. 97