Tudalen:Coelion Cymru.pdf/143

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a nychlyd. Dychwelodd y fam weddill y ffrwythau na fwytasid, a gofyn am faddeuant. Tynnwyd ymaith y felltith, a gwellhaodd y bachgen.[1] Dyma'r unig enghraifft a welais o Wraig Hysbys, ac un wan ydyw hon, oblegid y mae'r wraig yn fwy o reibes na dim arall. Dynion yn unig sydd yn consurio.

Ymgynghori â'r Consurwr. Y mae hanner can mlynedd, mi wn, er pan fu Morgan a Lisa Evans, Pen-y-cae, Taliesin, mewn helbul ynglŷn â'r llo. Cadwent fuwch neu ddwy, a daeth llo bach i sirioli eu bywyd. Disgwylient bethau mawr oddi wrth y llo, ac am beth amser gwnaeth yntau yr hyn a allai i "ddŵad ymlaen," eithr yn sydyn clafychodd. Gwrthodai bob math o ymborth, a nychu a cholli ei ddireidi. Galwyd Mr. Hughes, y drygist, Tal-y-bont, i'w weled. "Wel," meddai Mr. Hughes, " y mae rhywbeth rhyfedd ar y llo bach, druan. A welsoch chi ryw arwydd ei fod mewn poene?" Atebwyd na welwyd arwyddion o hynny. " Dyna own i'n dybio—dim poene. Y mae e'n fwy llesg a digalon na dim arall. Piti garw na fuasai infflamesion arno, mi rhown e ar 'i drad i chi mewn dim amser." Yr oedd Mr. Hughes yn adnabyddus drwy'r wlad am ei fedr i drin infflamesion ar ddyn ac anifail, a bu ei wasanaeth yn fendith ddegau o weithiau i'r werin dlawd na fedrai dalu am feddyg o'r dref. "Ie,

  1. Cambrian Superstitions, y Doctor William Howells (1831) td. 90.