piti mawr; ond mi treiwn hi," meddai Mr. Hughes. " Rhowch iddo'n gyson y moddion a anfonaf i chi3 a mi gawn weld." Dal yn wael a wnâi'r llo er pob gofal a moddion. Ymhen wythnos, meddai Lisa wrth Morgan, " Ewch, da chi, i Langurig, ne' ma'r llo yn siŵr o drigo. Ma' rhyw afiechyd diarth arno, a 'does neb a fedr ei wella os na wna'r Consurwr; mi glywsoch Mr. Hughes yn dweud 'i fod e'n ddigalon." Aed i Langurig a chael ddarfod rheibio'r llo. "Min nos drennydd," meddai'r Consurwr, "ewch â'r llô i'r ffordd fawr a throi ei ben i'r dwyrain, a phan êl heibio berson arbennig fe rydd y llo fref fawr. Y person hwnnw a'i rheibiodd. Cyferchwch y dyn, ac fe sieryd yntau â'r llo a thynnu ymaith y felltith." Brefodd y llo ei fref fawr, a phwy a ddigwyddodd fyned heibio ar y pryd ond Evan Jenkins, a elwid 'Byrgoes' am ei fod yn fychan o gorffolaeth. Cafodd ' Byrgoes ' y gair byth wedyn ei fod yn rheibiwr.
COLLI ARIAN. Y mae pentref bychan o hanner cant neu drigain o dai, a enwogwyd yn Niwygiad 1859, hanner y ffordd rhwng Machynlleth ac Aberystwyth. Pentref tipyn yn ddilewyrch ydyw, heb fod ynddo ddigon o bwysigrwydd i gynnwys llythyrdy. Y mae ynddo lythyrgist, a chesglir y llythyrau o honno gan lythyrgludydd a'u dwyn i Fachynlleth. Y mae gan y llythyrgludydd awdurdod i gofrestru llythyrau a rhoddi dangoseg amdanynt. Yn 1920, anfonodd gwraig a gadwai