siop fach yn y pentref lythyr â phum nodyn punt ynddo wedi ei gofrestru gan y llythyrgludydd, ond esgeulusodd geisio dangoseg, ac ni feddyliodd fwy am y peth. Ymhen mis daeth gofyn eilwaith o'r ffyrm am yr arian. Eglurodd y wraig iddi eu hanfon fis yn ôl. Eithr ni chafodd y ffyrm hwy, ac nid oedd ganddi hithau ddim i brofi iddi eu talu. Rhoddwyd y mater i ofal awdurdodau'r Llythyrdy, a bu chwilio mawr a dyfal, ond yn ofer. Wedi methu o bawb, nid oedd yn aros onid troi'r wyneb i Langurig. Ni pharodd ymweliad y wraig â'r Consurwr y syndod lleiaf iddo, ond yn hytrach ymddangosai fel petai yn ei disgwyl. Yr oedd popeth yn eglur a syml iddo ef, a hysbysodd hi yn ddiymdroi fod yr arian ym meddiant rhyw 'gythgam ' o ddyn a ystyrid yn onest a diniwed, ac y gallai ef ei enwi oni bai am gyfraith y wlad. Parodd iddi beidio â phryderu dim ymhellach ynglŷn â'r arian, a sicrhaodd hi y deuent i'w thŷ ymhen ychydig ddyddiau. Yn fuan wedyn, a'r wraig yn tynnu'r llwch oddi ar fantell y simnai—tynasai'r llwch droeon er adeg colli'r arian—cafodd y llythyr heb ei agor, a'r nodau i gyd ynddo, wedi ei osod y tu ôl i lestr a oedd yn addurn ar y fantell. Y mae'r holl bethau hyn yn hysbys i'r pentrefwyr oll, ac fe'u credir ganddynt. Cefais yr hanes o enau'r wraig a gollodd yr arian ac a ymwelodd â'r Consurwr.
Adroddai Mr. James Lewis, Portland Street, Aberystwyth, wrthyf am wraig a breswyliai yn Llanbadarn Fawr yn 1921, ac a gadwai fuwch neu