Tudalen:Coelion Cymru.pdf/146

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddwy. Ymhlith holl wartheg y sir rhagorai ei buwch hi am laetha. Cystal ydoedd ym mhob ystyr ag y gallai ei pherchen, pes mynnai, ei gwerthu i unrhyw amaethwr yn y plwyf am bris uchel. Eithr yn sydyn ataliwyd llaeth y fuwch yn llwyr, ac er ceisio'i godro ddydd ar ôl dydd, ofer oedd y cais. Ymborthai fel arfer, ac nid oedd arwydd o unrhyw nychdod arni, ond ni cheid llaeth. Ar ôl pryderu yn hir mynegodd y wraig ei gofid i gymdoges, a chynghorodd hithau hi i ymgynghori â'r Consurwr. Aeth y wraig i Langurig a gweled y dyn hysbys. Ar ôl cael y neges a holi peth ar y wraig, dywedodd y Consurwr yn bendant fod y fuwch wedi ei rheibio. "Y mae yn yr ardal amaethwr a roddodd ei fryd ar y fuwch," meddai. "Oes y mae," meddai hithau, " ac y mae wedi crefu arnaf droeon ei gwerthu iddo." "Wel," meddai yntau, "gwaith y dyn hwnnw—nid rheibes y tro hwn—sydd ar y fuwch. Nid wyf yn bwrw ei fod yn ddyn drwg, a gall fod y gorau yn y wlad, ond y mae wedi gosod ei fryd ar y fuwch i'r fath fesur onid effeithiodd ei feddwl arni. Ewch adref a chewch y fuwch fel arfer, yn iach ac yn llaetha." Bore trannoeth cafwyd cyflawnder o laeth fel cynt. Y mae'r wraig yn fyw yn awr, a'r fuwch hithau, cyn belled ag y gwn i.

CONSURWYR SIR FFLINT. Anfonwyd imi'r hanes a ganlyn gan Mr. Lewis Hughes, Henblas, Meliden.