datguddiad goruwchnaturiol. Bu cynnydd gwybodaeth trwy ddatguddiad oddi uchod yn foddion i oleuo cymydau tywyll fel afagddu, a lleihau llawer ar nifer y sawl a gred mewn swyno a chonsurio. Eithr y mae dosbarth arall o goelion fel y profir eto, a ystyrir yn ofergoelion, na cheir unrhyw oleuni arnynt gan na gwyddoniaeth na datguddiad. Pan gofir bod problemau na lwydda'r naill na'r llall o'r cyfryngau hyn i'w datrys, prin y dylid rhyfeddu at nifer mawr ofergoelwyr pob dosbarth ym mhob gwlad. Pob dosbarth— y dysgedig a'r diwylliedig yn ogystal â'r diddysg a'r anniwylliedig. Efallai nad oedd anghredadun mwy na'r Dr. Johnson ynglŷn â llawer o bethau a gredid yn gyffredin yn ei ddydd ef, ond credai yntau â pharodrwydd ac â ffydd plentyn yn ymddangosiad ysbrydion, ac mewn gwyrthiau a weithredid gan ei gyfoeswyr. Cydnebydd pawb, o ba lwyth bynnag y bônt, fod John Wesley yn ŵr hirben ac ymarferol, yn ddyn dysgedig iawn yn ei oes, â'i feddwl a'i fywyd yn santaidd; ond er ei synnwyr cyffredin cryf, ei ddysg a'i santeiddrwydd, credai Wesley yntau yn ymddangosiad ysbrydion, a chlywais ddywedyd y " dirgel gredai" y byddai fyw ambell anifail y tu hwnt i'r bedd.
Eithr nid oes alw am ddibynnu ar y gorffennol am enghreifftiau o ofergoeledd ymhlith gwyr dysgedig a gwybodus; brithir ein hoes ni â hwy. Nid yw Syr Oliver Lodge â'i wybodaeth wyddonol eang a manwl, a'r llenor gwych Conan Doyle, onid enghreifftiau o dyrfa fawr o ddysgedigion