Tudalen:Coelion Cymru.pdf/150

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddewiniaid—Tibet ydyw defnyddio swynion. Argreffir y rhai hyn ar bapur neu frethyn, a rhoddir neu gwerthir hwy i'r diben o sicrhau iechyd a nerth, i ochel damweiniau, ac i wrthweithio effeithiau ysbrydion drwg ac ysbeilwyr a phowdr gwn.[1]

O sylwi'n fanwl gwelir na fu newid mawr yng nghwrs yr oesoedd mewn ofergoelion. Ceir cannoedd o filoedd ym Mhrydain heddiw sy'n llawn mor ofergoelus â'n hynafiaid. Y mae'n wir nad yw'r sawl a gred yng nghyfaredd pedol ceffyl, ac a'i gesyd ar ddrws ystabl neu ar ddrws cefn ei dŷ, mor hysbys yng nghyfrinion natur y swyn â'i hendaid, a'i defnyddiai i gadw draw ysbrydion drwg, ond defnyddir hi i'r un pwrpas heb wybod paham. Arferir yn awr ddefodau gan filoedd na feddant y gradd lleiaf o wybodaeth am eu cychwyn a'u hanes. Ni wyddant fel yr hen bobl hanes y swynion, ond credant fel hwythau yn eu heffeithiolrwydd. O gyfrif rhagoriaeth i'r naill neu i'r llall, y mae'n amlwg mai'r hynafiaid a'i piau.

Cyn belled ag y gwelaf fi, nid yw pobl yr oes hon fymryn yn llai ofergoelus na phobl canrif yn ôl. Ychydig tros ddeuddeng mlynedd yn ôl, a mi yn trefnu i annerch Cymrodorion Aberafan ar lên gwerin, anfonodd yr ysgrifennydd, a oedd â chanddo radd y Brifysgol, i'm hysbysu nad oedd yno neb ofergoelus. Ond y peth cyntaf a welais pan gyrhaeddais y lle ydoedd procer wedi ei osod ar draws

  1. With Mysttcs and Magicians in Tibet, Alexandra David-Neel (1936), td. 226,