y tân i ffurfio croes, i'r diben o'i achub rhag melltith y diafol. Tua'r un adeg, a mi yn nhref ysgolheigaidd Aberystwyth yn ymweled â gwraig glaf a oedd yn byw yn un o dai mwyaf y Marine Terrace, arweiniwyd fi i ystafell y fam gan y ferch. Holais y claf am ei hiechyd. "O," meddai, "yr wyf gryn lawer yn well." "Mother, mother!" meddai'r ferch mewn dychryn, a chydio mewn clwff o bren oddi ar fwrdd crwn a oedd gerllaw'r gwely, a'i wthio i law denau'r fam. "Beth yw hyn yna da?" gofynnais. "Touch Wood" meddai. Cefais enghraifft dda o le annisgwyl ym Medi 1931. Gwelais weinidog yn myned i'w gyhoeddiad mewn cerbyd modur. Ar drwyn y modur yr oedd wedi ei osod yn ofalus a diogel y creadur bach hyllaf a welais erioed—bod bach crwca ag wyneb epa, a'i gorff afluniaidd o flew melynllwyd tebyg i flew arth oedrannus. "Beth yw diben hwn?" gofynnais. "Mascot" peth i gadw aflwydd draw," meddai'r 'hoelen wyth.' Gŵr Duw â'i ffydd yn nawdd corffyn hanner epa! Na, ni fu newid namyn newid gwrthrychau'r credu. Gwyddai'r barbariaid yn y goedwig achos ac effaith y ddefod o guro pren. Eithr ni wyddai merch ddysgedig a chrefyddol y "Touch Wood" ddim o'r hanes. Felly gŵr y modur yntau. Er hynny, credai'r ddau yng ngallu goruwchddynol y defodau.
Efallai mai'r swynion rhyfeddaf sy'n bod yw'r rheini a gafwyd gan y Consurwyr. Y mae iaith pob un ohonynt yn gymysgfa o Saesneg ac ieithoedd eraill. Ni welais un yn Gymraeg. Ni