Tudalen:Coelion Cymru.pdf/152

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

welais chwaith fwy na dau mewn argraff, ac y mae un o'r ddau yn anghywir. Myn y sawl a gred yn eu cyfaredd mai trysorau i'w cuddio ydynt. Rhoddaf yma rai o'r swynion a gefais mewn llawysgrifau, ond ni cheisiaf drosi'r un i'r Gymraeg. Pwy a ŵyr beth fyddai'r canlyniad o wneuthur hynny?

HELYNT LLANGURIG (MALDWYN). Y mae yng ngallu consurwr rwystro person i daflu hud a melltith ar arall, ac i'r diben hwnnw rhydd un o'i swynion. A mi yn byw yn Llanidloes yn 1910, gofalwn am eglwys sydd rhwng y mynyddoedd tua dwy filltir o gartref y consurwr. Preswyliai yn y pentref hen ŵr a hen wraig, a elwir yma yn L. ac N., rhag peri tramgwydd i berthynasau sydd eto'n fyw. Yr oedd y ddau mewn gwth o oedran— wedi "cyrraedd yr addewid"—pan briodasant ychydig flynyddoedd ynghynt. Trigent yn hapus mewn bwthyn clyd a berthynai i'r hen wraig cyn priodi L. Eithr yn sydyn ymwahanasant a pheri syndod i bawb. Ni ŵyr neb hyd heddiw am un rheswm tros yr ymwahanu, a chredaf na wyddai'r hen bobl eu hunain am reswm; un o droeon anesboniadwy henaint ydoedd. Un nos Fercher, wedi oedfa yn y capel, disgwyliai L. amdanaf ar y ffordd gyferbyn â'r drws. Dechreuodd adrodd ei gŵyn a gofyn am gyfarwyddyd. Cymhellais ef a dau o'r blaenoriaid i'r capel. Yr oedd y ddau flaenor yn amaethwyr o safle da, ac yn rhagori ar bawb yn y plwyf o ran gwybodaeth a barn.