Tudalen:Coelion Cymru.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

diwylliedig a dry at ysbrydegaeth am oleuni ar anawsterau ynglŷn â'r byd anweledig. Pum mlynedd yn ôl, a mi'n cydymdeimlo â gweinidog meddylgar a dysgedig ar farwolaeth ci bach a hoffai'n fawr, a dywedyd rhwng difri a chwarae, "Chwi a gewch gyfarfod eto." "ie," meddai, "'rwy'n meddwl eich bod yn iawn. Y mae gennyf resymau tros obeithio y cyfarfyddwn eto y tu draw i'r llen."

Gwelir, felly, nad perthyn i genedl yn ei mabandod yn unig y mae ofergoelion, ond y parhânt yn ei bywyd, i raddau mwy neu lai, o genhedlaeth i genhedlaeth, a thrwy bob datblygiad. Nid praw o anwybodaeth yn unig yw ofergoeledd, ac nid diffyg noeth mohono, eithr praw o feddylgarwch hefyd,—pobl, boent anllythrennog neu ddysgedig, yn wynebu anawsterau meddyliol ac yn dyfalu dirgeledigaethau, a'u hawydd am oleuni yn gryf. O gymryd yr olwg hon ar ofergoeledd, gwelir mai rhinwedd yn fwy na bai ydyw. Ffynna ofergoeledd mewn mannau gwledig sydd â'r amodau'n ffafriol i feddylgarwch, yn fwy nag yn y trefydd a'r mannau gweithfaol sydd â'u prysurdeb a'u miri yn hudo'r meddwl i arwynebedd a bydolrwydd.

Pwysleisiaf eto y ffaith nad ffwlbri mo'r ofergoelion, hen a diweddar, ond pethau hanfodol i'w gwybod i'r diben o ddeall yn gywir fywyd dyn a chenedl. Dywedodd yr Athro T. Gwynn Jones mewn beirniadaeth ddydd Calan, 1921, fod y sawl sy'n trafferthu i chwilio allan a chofnodi hen