Tudalen:Coelion Cymru.pdf/162

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

{{Quote| ave ave ave maria creed . . . χ an χ adony χ tetragammaton amen χχχ and in the name of the holy trinity and of . . . it preserve all above named from all evil diseases whatsoever Amen χ;."[1]

CWPAN SANTAIDD NANTEOS. Perthyn i'r phiol hwn rinwedd cyfareddol a'i gesyd yn nosbarth y Swynion. Ni chlywais y credwyd gan neb yn ei allu i gadw draw ysbrydion drwg, gweledig nac anweledig, ond credid yn lled gyffredinol ar hyd yr oesoedd yn ei effeithiolrwydd i edfryd iechyd corff a meddwl.

Y mae'r Cwpan o bren tywyll—bron a bod yn ddu—a thybir ei wneuthur o bren Croes yr Arglwydd Iesu. Daw'r hanes cyntaf amdano o Fynachlog Ystrad Fflur; yno y trysorid ac y defnyddid ef fel crair santaidd gan y mynaich. Saif y Fynachlog ar ran o ystâd Tregaron. Pan ddinistriwyd hi gan Harri VIII, rhoddwyd hi a'r tir a berthynai iddi i ryw Ddug o Arabia a ddaeth i'r wlad o Balestina. Oddi wrtho ef aeth i feddiant un o'r enw Steadman, ac yna i Boweliaid Nanteos, y sydd gerllaw Aberystwyth.

Credid yn lled gyffredin unwaith mai o'r Cwpan hwn yr yfodd yr Arglwydd Iesu yn y Swper Olaf, ac mai ef ydoedd nod ymchwil fawr Marchogion Arthur. Hyd o fewn ychydig flynyddoedd yn ôl arferai cleifion o bob rhan o'r deyrnas, ac weithiau o Ewrop, geisio bendith y Cwpan.

Y mae'r phiol, sydd wedi ei amharu trwy draul

  1. 1 Llyfr. Gen. Cymru, Llsgr. 5563. Gweler gyferbyn lun darn o'r llawysgrif sy'n dangos yr arwyddion ar ddiwedd y swyn.