Tudalen:Coelion Cymru.pdf/165

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a cham, yn Nanteos o hyd, a dywaid Mr. Ceredig Davies i Mrs. Powell ddangos iddo, yn 1911, lythyr a dderbyniasai yn ddiweddar oddi wrth foneddiges bendefigaidd yn Ffrainc yn erfyn arni anfon cadach wedi ei rwymo am y Cwpan am bedair awr ar hugain.[1]

TOUCH WOOD. A barnu oddi wrth fynyched yr arferir y swyn hwn yn nosbarthiadau uchaf a chanol cymdeithas, y mae'n rhaid bod ei rinwedd yn anarferol fawr. Ei bwrpas ydyw gochel pob math ar aflwydd. Gwnaed sylw eisoes o'r foneddiges yn Aberystwyth a wthiai glwff o bren i law ei mam glaf, ac na wyddai paham y gwthiai bren yn hytrach na rhywbeth arall. Mewn llawysgrif yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ceir hanes milwr o Ganada yng ngwersyll Kinmel yn 1919, â pheg bach dillad yn ei logell. Cariodd ef drwy'r Rhyfel Mawr i bwrpas "Touch Wood."[2]

Y mae hanes y ddefod fel hyn. Ymhell bell yn ôl ym more'r oesoedd, credai anwariaid fod eu duwiau ac ysbrydion goruwchnaturiol eraill yn eiddigeddus o bob llwyddiant a mwyniant dynol, ac y drygent y sawl a amlygai lawenydd. Felly, gwnâi pawb a fedrent i guddio dedwyddwch a llonder rhag y bodau hyn. Mewn cabanau coed y preswyliai'r trigolion, a phan ddawnsient a llawenhau, curent barwydydd y caban i foddi sŵn eu miri.[3]

  1. Welsh Folk-lore, J. Ceredig Davies (1911) td. 294.
  2. Llyfr. Gen. Cym., Llsgr. 5653.
  3. The story of Superstition, Philip F. Waterman (1929).