LLADD YR ECO. Yn 1936, ysgrifennodd Mr. Peter Lewis lythyr i'r " Western Mail " ynglŷn â darganfod pedwar pen ceffyl a gafwyd tan seiliau hen ffermdy yn Sir Drefaldwyn. Yn fuan wedyn ysgrifennodd y llenor a'r hynafiaethydd Mr. H. W. Evans, Y.H., Solfach, Sir Benfro, i egluro ddarfod i'r Methodistiaid Calfinaidd adeiladu capel yn nhreflan Caerfarchell, gerllaw Tyddewi, yn 1763, a chael bod ynddo eco a wnâi addoli yn anodd. Felly, yn 1827, aed ati i adeiladu capel arall ar dir y cyntaf, a phenderfynu ' lladd yr eco' trwy osod pennau ceffylau yn ei sylfeini. Penodwyd yr hen Willie Lewis, morwr, ac aelod ffyddlon o'r eglwys, i chwilio am ddau ben ceffyl. Yn ffodus cafodd yntau bedwar. Claddwyd hwy yn y sylfeini, ac yno y maent heddiw. Ni ddywaid Mr. Evans beth a ddaeth o'r eco.
RHINWEDD PEDOL CEFFYL FEL SWYN. Hoelir pedolau ceffylau ar ddrysau tai, ac yn arbennig ar ddrysau ystablau a beudai, i atal dialedd cythraul a melltith rheibes. Efallai nad oes gan y mwyafrif o'r rhai a gred yn awr mewn hen bedolau gwrthodedig gan geffylau, ddim gwell yn sail i'w cred na syniad annelwig y parant iddynt ffawd dda. Eithr ymhellach yn ôl edrychid arnynt fel amddiffyn effeithiol rhag ysbrydion drwg a swyngyfaredd, ac yn ôl wedyn—yn y tarddiad—yr oedd gosod y bedol ar ddrws yn weithred o ddefosiwn crefyddol. Gwisgai'r dduwies Aifftaidd Isis benwisg ar ffurf pedol ceffyl, ac o'r Aifft y cychwynnodd