Tudalen:Coelion Cymru.pdf/167

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y ddefod, a chyrraedd gwahanol wledydd y byd. Yr un pwrpas sydd i'r bedol ym mhob rhan o'r ddaear.[1]

Pren Criafol. Ystyrid yn yr hen oesoedd fod rhyw gyfaredd gysegredig yn y pren hwn. Y mae ei nodweddion yn amryw a gwerthfawr. Nid yw'n hawdd ei ddifa. Y mae'n farwol i bryf coed. Ni thrig ellyll neu ysbryd drwg ar ei gyfyl. Ofna rheibesau ef, a gwna'n ddieffaith holl gynllwynion y Tylwyth Teg. Y mae'n drech na phob swyngyfaredd, ac ni ddaw niwed i'r sawl a geidw frigyn ohono ar ei berson. Credid gynt mai o'r pren hwn y gwnaed y Groes, ac mai hyn a barai i'w ffrwyth fod fel defnynnau gwaed. Peth cyffredin yw gweled hen bren criafol unig gerllaw murddun sy'n furddun ers cenedlaethau, a hawdd yw taro arno yng ngerddi tai diarffordd a hen bentrefi bychain trwy'r wlad. Nid af i ardd fy llety heb orfod plygu tan ddau bren criafol a dyf ar ffurf bwa, a gwelaf ar un edrychiad brennau o'r un math mewn tair o erddi eraill. Methais â chael gan y pentrefwyr reswm tros goleddu'r pren, ond yn unig mai " peth lwcus yw pren criafol."

ATAL GWAED O ARCHOLL A SWYNO DAFADENNAU. Ceir drwy Gymru, yma a thraw, bersonau â'r ddawn ddieithr ac anesboniadwy i atal gwaed a symud y mân ddefaid a dyf ar y corff heb ddefnyddio unrhyw foddion gweledig. Yn Llwyn

  1. The Story of Superstition, Philip F. Waterman (1929), td. 17.