Tudalen:Coelion Cymru.pdf/168

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Adda, ffermdy bychan rhwng y Borth a Thal-y-bont, Ceredigion, preswyliai hen wraig barchus o'r enw Mrs. Morgan. Bu farw tua dwy flynedd yn ôl, ac ym marn miloedd bu ei cholli yn golled fawr. Heblaw bod yn fedrus ar y gwaith o dorri clefyd y galon, gallai atal gwaed o archoll pryd y mynnai. Dywaid Mr. Isaac Edwards, Tre’r-ddôl, wrthyf, iddo ef pan oedd yn was yn Nhŷ Hen, Henllys, bymtheng mlynedd yn ôl, ymweled â'r hen wraig. A gŵr Tŷ Hen yn gweithio rhyw beiriant ar y fferm, trawyd ef ar ei ben gan ryw gymal o'r peiriant, a llifai'r gwaed fel pistyll. Er pob dyfais ac ymdrech methid ei atal. "Da thi, 'ngwas i, rhed am dy fywyd i Lwyn Adda," meddai'r wraig. I ffwrdd â'r gwas ac egluro'n frawychus i'r hen wraig. " Paid â gwylltio dim 'machgen i," meddai hithau. "Dos yn dy ôl, ac fe fydd popeth yn iawn." Dychwelodd Isaac Edwards a chael, er ei syndod, i'r gwaed beidio â rhedeg y munudau y llefarai'r hen wraig wrtho.

Yn y flwyddyn 1920 neu 1921, bu farw ym Mlaen Brwyno, Ceredigion, ŵr a oedd yn nodedig am y ddawn i atal gwaed o archoll a thynnu tân o losg. Mwynwr ydoedd o ran crefft, ac yn ddyn deallus a gwylaidd, llariaidd a defosiynol, yn flaenor yn ei eglwys ac yn arweinydd y gân yn y gwasanaeth. Syniai'r ardalwyr yn uchel am ei alluoedd, a pharchai pawb ef ar gyfrif ei gymeriad. Y mae mab iddo yn byw yn awr ar y mynydd rhwng Cwm Rheidol a Phumlumon, ac y mae dawn y tad, heb ei hamharu ddim, yn eiddo iddo.