Tudalen:Coelion Cymru.pdf/169

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ar fy nghais ymwelodd yr Henadur John Morgan, Y.H., â'r mab a chael ganddo lawer o wybodaeth am ei grefft gyfrin. Ond yr oedd fy ngohebydd yn adnabod y tad, a myn roddi yn gyntaf enghraifft o'i fedr ef i atal gwaed o glwyf.

"Yng ngwaith mwyn Pen Rhiw, Ystumtuen, digwyddodd i Mr. Richard Jones, sydd eto'n fyw, ddamwain lled ddifrifol, a methid er pob dyfais ag atal y gwaedu. Ar ben y siafft gweithiai hen ŵr Blaen Brwyno, a galwyd ef i lawr i'r pwll. Tynnodd yntau ei law tros y clwyfau, heb eu cyffwrdd, ac ataliwyd y gwaed ar unwaith." Pan ymwelodd fy nghyfaill â'r mab, cafodd ganddo ei dystiolaeth i'w allu di-feth, yn rhinwedd ei ddawn ddieithr, i atal gwaed o glwyf, tynnu tân o losg, a gwella clefyd y galon. Gwna'r pethau hyn oll heb gymorth unrhyw foddion gweledig, ac ni phroffesa fod yn ei waith ddim goruwchddynol. Cafodd y "gyfrinach" gan ei dad, a hwnnw gan ei dad yntau, a thybia ef ei bod yn y teulu ers cenedlaethau. Cred hefyd na all mwy nag un yn y teulu feddiannu'r ddawn ar yr un adeg. Cafodd yr Henadur ganddo enwau amryw bersonau a fu tan ei law ac a lesolwyd, ac ymwelodd â rhai ohonynt a'u holi, a chael a ganlyn:

"Ychydig flynyddoedd yn ôl yr oedd yn byw heb fod nepell oddi yma ferch ieuanc, sydd yn briod i weinidog yn awr, a gafodd drwy ddamwain anaf drwg iawn ar ei llaw. Llifai'r gwaed fel ffrwd, a methid â'i atal. Yn ffodus gweithiai'r Swynwr ar