Tudalen:Coelion Cymru.pdf/170

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y pryd yn agos i'w chartref, a galwyd arno. Yntau, â'i law noeth, a ataliodd y gwaed mewn eiliad."

"Dyma dystiolaeth a gefais yr wythnos hon (sef yr olaf yn Chwefror, 1937) gan heddgeidwad. Wrth iddo drin ei fodur taniodd y petrol a llosgi ei ddwylo. Yr oedd y llosg cynddrwg fel y cododd croen y ddwy law, a'r boen yn arteithiol. Anfonwyd am y Swynwr. Daeth yntau a gweithredu, a diflannodd y boen yn llwyr ac ar unwaith."

Gofala fy nghyfaill egluro nad oes ganddo fawr o ffydd yng nghoelion cyffredin y werin, eithr dywaid hefyd weled ohono rai pethau o waith y Swynwr hwn sy'n gwbl anesboniadwy iddo ef. Ac meddai:

"Yr oedd ŵyr bach imi, tua phedair oed, wedi ysgaldio rhannau o'i gorff yn ddrwg iawn. Aethai'r boen bron yn annioddefol, ac wylai'r bychan yn dorcalonnus. Anfonwyd am y Swynwr. Gwyliais ef yn fanwl yn gweithredu. Cododd y plentyn i'w liniau, a thynnu ei law tros y rhannau llosgedig, eithr ni chyffyrddodd â hwy. Yr oedd tawelwch dwys yn y tŷ, ac ni ddywedodd yntau un gair. Cyn pen ychydig eiliadau yr oedd y plentyn yn chwerthin yn ei wyneb, ac wedyn yn chwarae fel cynt. Swynodd y dyn y tân a rhoddi cynghorion gwerthfawr ynglŷn â gwella'r clwyfau."

CLEFYD Y GALON, NEU CLWY'R EDAU WLÂN. Perthyn i ddosbarth y Swynwyr y mae Torrwr