ei roddi i'r claf ydoedd, gwerth tair ceiniog o saffrwm mewn gwerth swllt o frandi. Dywedai'r claf, a oedd yn iach ar y pryd, y buaswn yn synnu cyn lleied o frandi a geir am swllt yn y dyddiau hyn, ond er lleied ydoedd, iddo fod yn gymorth effeithiol i brysuro'i adferiad ef.
Deallaf yr amrywia'r swynwyr o ran y modd o weithredu, ond defnyddia pob un yr edau wlân a'r saffrwm. Rhydd yr Athro Gwynn Jones hanes y ddefod a gafwyd oddi wrth un sy'n arfer y feddyginiaeth yn awr yn Sir Drefaldwyn. " Mesurir yr edau dair gwaith o'r penelin i'r mynegfys a'r bys canol. Tra gwneir hyn llefara'r Torrwr yn anghlywadwy y geiriau, 'yn enw'r Tad, a'r Mab a'r Ysbryd Glan, yr wyf yn gofyn beth sydd arnaf fi. Hwn a Hwn (enw'r dyn sâl), yr hwn wyf hyn a hyn o oedran.' Yna rhwymir yr edau am arddwrn neu figwrn y dioddefydd. Ymhen wythnos mesurir yr edau eilwaith, ac os ymestyn, bydd y clefyd yn well, eithr os byrhau a wna, bydd yn gwaethygu. Rhoddir darn o ddur, hanner pwys, wedi ei boethi oni fo'n goch, mewn cwpanaid o gwrw a'i adael ynddo. Yna rhoir gwerth chwe cheiniog o saffrwm mewn dŵr berwedig, a'i gymysgu â'r cwrw. Cymerir llond llwy fwrdd o'r moddion bob dydd am bum niwrnod, ac ar ôl hynny llond llwy fwrdd a hanner bob dydd. Os bydd y clefyd yn ddrwg iawn ac yn effeithio ar yr iau, dylid yfed llond cwpan wy o'r trwyth."[1]
- ↑ 1 Welsh Folklore and Folk Custom, Yr Athro T. Gwynn Jones (1930), td. 132.