Tudalen:Coelion Cymru.pdf/173

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dywaid yr Athro T. Gwynn Jones iddo olrhain y ddefod hon yn siroedd Aberteifi, Trefaldwyn, Dinbych a Morgannwg. Clywodd ei bod hefyd yng Nghaernarfon.[1] Rhydd y Parchedig Elias Owen yntau enghreifftiau o'r goel yn Llanwnnog, Sir Drefaldwyn, Rhiwabon, Sir Ddinbych, ac amryw fannau eraill yng Ngogledd Cymru.[2]

Gwn hanes wyth a oedd yn fawr eu clod fel meddygon clefyd y galon, ac adnabûm yn dda bedwar ohonynt. Yr oedd Mrs. Morgan, Llwyn Adda, ymhlith yr enwocaf. Eglurwyd eisoes ei medr i atal gwaed, eithr nid oedd fymryn yn llai medrus yng nghrefft yr edau wlân. Nid oedd odid ddydd o'r flwyddyn na châi hi ymwelwyr. Deuent ati o leoedd agos a phell yng Nghymru, ac yn aml o Loegr hefyd, a dywaid un a'i hadnabu am flynyddoedd y cred ef y derbyniai oddi wrth ei chrefft lawn cymaint ag a dderbyniai llawer meddyg gwlad. Clywais gan Mr. Isaac Edwards, Tre’r-ddôl, iddo ef ymweled â hi tua phedair blyncdd ar ddeg yn ôl, ar ran merch y fferm y digwyddai fod yn was ynddi ar y pryd. Gwnaeth y wraig ei gwaith a rhoddi cyfarwyddiadau ynglŷn ag ymborth. Pan ofynnodd Edwards pa faint oedd y tâl, " Wel," meddai hi, "fydda'i yn gofyn dim, ond gadael ar onor pobol. Pan fydd un yn rhoi rhywbeth, rhaid iddo fod yn ddarn arian, ac er gwneud y driniaeth

  1. Welsh Folklore and Folk Custoni, T. Gwynn Jones (1930) td. 130.
  2. Welsh Folk-lore, Elias Owen (1887).