yn llwyr effeithiol, gore po fwyaf fydd y darn."
Un arall a wnaeth gymwynasau lawer yn rhinwedd dawn yr edau wlân ydoedd Mr. David Jenkins, Caerhedyn, ar ochr Trefaldwyn i bont Llyfnant, ac a symudodd rai blynyddoedd cyn terfyn ei oes i fyw i Eglwysfach. Amaethwr cefnog a mawr ei ddylanwad a'i barch oedd Mr. Jenkins, ac ni chlywais erioed amau ei gywirdeb ynglŷn â phawb a phopeth. Pregethai'n gymeradwy fel pregethwr cynorthwyol yn y cyfundeb Wesleaidd, a chlywais ef ddegau o weithiau yng nghapel fy hen gartref. Torrodd David Jenkins glefyd y galon ar ugeiniau, onid cannoedd, ac ni dderbyniai dâl gan na thlawd na chyfoethog. Mor anodd yw dywedyd nad oes dim yn y peth, neu mai twyll yw'r cwbl, wrth feddwl am berson o safle a chymeriad Mr. David Jenkins yn credu ynddo, ac yn ei arfer!
Ychydig cyn ei farw ym mis olaf 1936, derbyniais oddi wrth Mr. James Lewis, Aberystwyth, gynt o Gorris, yr hanes a ganlyn:
"Yn 1900, yr oedd Robert Thomas (Robin Bach), Corris Uchaf, a John Evans, Esgairgeiliog, yn gweithio yn ymyl ei gilydd yn chwarel y Tyno. Un bore ar enau'r lefel, holodd John Robin am iechyd ei wraig a oedd yn sâl ers tro. ' Wel, drwg iawn,' meddai Robin, ' ac yr wyf am fynd i Esgairgeiliog heno i weled Mari Lewys. Rwy'n ofni bod clefyd y galon arni.' Gwyddai John Evans y byddai mynd heibio i'r ddwy dafarn a oedd ar y ffordd yn ormod temtasiwn i Robin,