ac addawodd alw efo Mari ar ei ran—galw am bedwar o'r gloch. Ond anghofiodd John ei addewid nes oedd hi'n naw o'r gloch. Aeth Mari drwy'r defodau arferol a chael bod gwraig Robin yn ddrwg iawn, ond y deuai yn well. Cafodd John yr edau, a thalodd ddarn arian i Mari. Bore trannoeth wrth enau'r lefel, cyn i neb yngan gair, meddai Robin, 'Chadwasoch chi mo'ch gair ddoe, John Evans.' Pwy ddywedodd? Wel, 'meddai Robin,' yr oeddwn i wrth erchwyn gwely'r wraig am naw o'r gloch neithiwr, ac meddai hi, 'Rŵan y mae John Evans efo Mari Lewys.'" Cafodd priod Robert Thomas y trechaf ar y clefyd, meddai Mr. James Lewis, ac yr oedd ef yn gweithio yn y Tyno ar y pryd. Cefais gan gyfaill arall o Aberystwyth hanes sydd â rhai o'i nodweddion yn debyg i eiddo'r uchod.
Gellid yn hawdd ychwanegu enghreifftiau, eithr ni roddaf ond un, a honno yn un ddiweddar, i brofi bod y gred yng nghlefyd y galon, ac yng ngallu personau arbennig i'w dorri, mewn bri o hyd. Ym mis Mehefin, 1929, cefais ymgom â dyn a breswyliai yn un o bentrefi gogledd Ceredigion a fuasai'n glaf iawn. Teimlasai ryw bwysau mawr yn ei fynwes a llesgedd trwy ei holl gorff. " Diffyg traul," meddwn. " Nage, nage, 'machgen i; nid peth cyffredin felly, ond peth canmil gwaeth—clefyd y galon." Ymgynghorodd â pherson yn y pentref a fedr dorri'r clefyd, a chafodd gwbl iachâd. Y mae'r sawl a dorrodd y