clefyd eto'n fyw, a phan fo galw, yn arfer ei dawn.
MÂN SWYNION. Priodolid rhinwedd arbennig gynt, a gwneir hynny yn awr mewn amryw fannau, i'r manion a ganlyn fel moddion meddyginiaeth:—(i) Gwella llygaid clwyfus: (a) Gwisgo modrwyau pres neu aur yn llabedau'r clustiau. (b) Golchi'r llygaid yn yr hwyr a'r bore â dŵr glaw mis Mai. Cedwir mewn potel, ddŵr glaw mis Mai ar hyd y flwyddyn a'i ddefnyddio yn ôl y galw. Ym mis Mawrth, 1928, ar brynhawn Sul, a mi yn paratoi cychwyn o Daliesin ar gyfer oedfa'r nos yn y Borth, cefais nad oedd dŵr yn lamp y beic a gofynnais i Ddafydd Roberts a oedd modd cael dŵr glaw o rywle. " Wel," meddai, " y mae gen i boteled o ddŵr glaw mis Mai llynedd, os gwna hwnnw'r tro." Yna eglurodd mai dŵr at lygaid ydoedd. Defnyddiais ef a goleuodd y lamp yn gampus. (2) Symud Llefrithen. " Cred ddiysgog llawer o bobl Penllyn yw y gellir cael gwaed o lefrithen trwy i rywun gyfrif deg ymlaen a deg yn wrthol ar un anadliad, ac yna chwythu ar y llygad dolurus a'i wella. Y mae hon yn goel gyffredinol trwy Gymru a Lloegr."[1] (3) Symud Dafadennau. (a) Lladrata tamaid o gig eidion-rhaid ei ladrata yn ddirgelaidd-yna cladder ef. Fel y pydra'r cig diflanna'r dafadennau. (b) Poerer arnynt boer cynta'r bore. (c) Maler carreg wen a gwneuthur y malurion yn sypyn mewn
papur a'i osod ar groesffordd, fel y gall rhywun
- ↑ Llyfr. Gen. Cym., Llsgr. 10567.